Lleu
WELSH AMBER ALE
Mae’r cwrw wedi’i enwi ar ôl y rhyfelwr Lleu o chwedlau’r Mabinogi, y chwedlau llên gwerin Cymreig enwog sydd â’u gwreiddiau yn Nyffryn Nantlle. Roedd Lleu yn gymeriad unigryw, cryf, apelgar a chofiadwy, ac rydym wedi gweithio’n galed i gyfleu’r nodweddion hyn yn ein cwrw. Mae Lleu yn asio blasau brag naturiol a hopys sy’n cyfuno i greu cwrw unigryw.
Alc. 4.0% cyf.