Madog Ale - Mŵs Piws
poteli 500ml o Gwrw Madog
Mae Cwrw Madog/Madog's Ale yn sesiwn glasurol wedi'i fragu'n chwerw o ddŵr mynydd Cymreig a chynhwysion naturiol. 3.7% ABV.
Daw enw'r cwrw oddi wrth William Alexander Madocks, sy'n enwog am adeiladu'r 'Cob' a Harbwr Porthmadog yn y 19eg ganrif. Daeth y dref a dyfodd o amgylch yr harbwr, sef Port Madoc yn wreiddiol, i gael ei henw o Madocks.